Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 7
Mehefin 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12874
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.27
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 14.39
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 - TYNNWYD YN ÔL
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dechreuodd yr eitem am 15.09
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Mynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig – Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Dechreuodd yr eitem am 15.46
7 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Ddiwylliant a Threftadaeth: Hanes, Diwylliant a Threftadaeth Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Dechreuodd yr eitem am 16.17
8 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi system addysg wrth-hiliol
Dechreuodd yr eitem am 16.51
9 Dadl: Adolygiad Blynyddol 2020-21 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 17.21
NDM8013 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Effaith Cymru 2020-21 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Adroddiad Effaith Cymru 2020–21
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Cyfnod pleidleisio
Nid oedd Cyfnod Pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 17.47
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 8 Mehefin 2022